Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bysgodfeydd a Dyframaethu
Enw Cadeirydd y Grŵp:
Mabon ap Gwynfor – Plaid Cymru
Enwau Aelodau eraill o’r Senedd:
Vikki Howells – Y Blaid Lafur
Sam Kurtz – Y Blaid Geidwadol
Enw'r Ysgrifennydd a’r Sefydliad:
Helen Duggan – Seafish
Enwau'r aelodau allanol eraill a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli:
Jim Evans – Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
Andrew Tait – Cenhadaeth y Pysgotwyr
Dyddiad y cyfarfod:
4 Rhagfyr 2023
Yn bresennol:
Cyfarfod wedi'i drefnu ond yna wedi'i ganslo gan nad oedd unrhyw Aelodau o'r Senedd ar gael, ac eithrio'r Cadeirydd.
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Cyfarfod wedi’i ohirio tan 2024
Dyddiad y cyfarfod:
16 Medi 2024
Yn bresennol:
Enw: |
Teitl / Sefydliad: |
|
Mabon ap Gwynfor |
Cadeirydd Y Grwp Trawsbleidiol |
|
Siôn Edwards |
Cyfieithydd ar y Pryd |
|
Helen Duggan |
Seafish, Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol |
|
Jon Parker |
Aquaculture Industry Wales (AIW) |
|
James Wilson |
Diwydiant cregyn gleision Menai |
|
Lewis Le Vay |
Prifysgol Bangor |
|
Meg Haines |
Câr-y-Môr |
|
Jane Roche |
Catch of the Day |
|
Andrew Tait |
Cenhadaeth y Pysgotwyr |
|
Justin Whitford |
International Aqua Tech Ltd (aelod o AIW) |
|
Julie Hill |
Lobster Pot |
|
Jack James |
Pontus Research |
|
David Fletcher |
Ymgynghorydd ym maes ymchwil a datblygu |
|
Aoife Martin |
Seafish |
|
Lynn Gilmore |
Seafish |
|
Jesse Drake |
Seafish |
|
Graham Black |
Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Bysgod Môr Cymru ac Aelod o Fwrdd Seafish |
|
David Jarrad |
Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr (SAGB) |
|
Paul Howes |
Prifysgol Abertawe |
|
Lissa Clayton |
Syren Shellfish |
|
Jim Evans |
Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA) |
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Rhoddodd Jon Parker ddiweddariad ar ran Aquaculture Industry Wales. Tynnwyd sylw at yr angen am gydraddoldeb o ran cyllid a gwell dealltwriaeth o'r effaith gadarnhaol y gall cydweithio rhwng diwydiant a chymunedau ymchwil ei chael.
Er bod clwstwr Bangor ar lwybr gwahanol, mae’n rhannu'r un gwerthoedd ag AIW. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud â Phrifysgol Bangor, Seafish a rhanddeiliaid allweddol eraill yn parhau, a’r nod yw datblygu gwaith ymchwil a chydweithio ar y rhwystrau, y cyfleoedd a'r manteision sydd ynghlwm wrth gynyddu cynhyrchiant. Mae angen ailsefydlu’r gallu i gael mynediad diogel a sefydlog i'r farchnad, a hynny er mwyn cydbwyso'r cyflenwad a'r galw.
Rhoddodd Aoife Martin gyflwyniad ar y gwaith sy'n cael ei ddatblygu yng Nghymru gan Seafish i gefnogi'r sector dyframaeth, ac ar gynhyrchion a gwasanaethau perthnasol ehangach Seafish. Roedd y prif bwyntiau’n cynnwys y canlynol:
· Mae James Wilson a Lewis Le Vay yn aelodau o'r Gweithgor Rhanddeiliaid ar Bysgod Cregyn, sy'n gweithio ar wella ansawdd dŵr i gefnogi twf yn niwydiant dyframaeth y DU;
· Mae’r Fenai wedi’i chynnwys yn y gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu dealltwriaeth ynghylch gwasanaethau ecosystem a buddion lles cyhoeddus, a hynny fel bod llunwyr polisi a defnyddwyr yn deall y potensial;
· Mae dulliau arloesol o ddefnyddio cregyn gleision yn cael eu harchwilio er mwyn dod o hyd i ffyrdd o gynyddu'r galw;
· Mae Seafish yn cydweithio â Chanolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas) er mwyn ceisio ehangu'r data ar ymchwil economaidd a pherfformiad sydd ar gael; ac
· Mae 'map ffordd' ar gyfer sicrhau cadwyn gyflenwi wydn ar gyfer bwyd môr yng Nghymru yn cael ei ddatblygu, ac mae’r map ffordd hwn yn destun mewnbwn gan y diwydiant, y byd academaidd a Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn y cyflwyniad, cafwyd trafodaeth agored ar ddyframaeth yng Nghymru. Mae'r pynciau allweddol a ddaeth i’r amlwg yn cynnwys y canlynol:
· Cyfleoedd twf a ddaw yn sgil systemau dyframaethu ailgylchdroi (RAS);
· Diffyg cyllid a chyfyngiadau ar gyllidebau blynyddol;
· Cytundebau gwleidyddol sy'n effeithio ar fynediad i farchnadoedd yr UE;
· Heriau sy’n gysylltiedig â chynllunio morol a gwasgfa ofodol;
· Gwella strwythur llywodraethu Llywodraeth Cymru ym maes pysgodfeydd;
· Cyfleoedd i Gymru arwain mewn rhai meysydd, gan fod y buddsoddiad sy’n ofynnol yn gymharol fach; a
· Diffyg strategaeth glir ar gyfer y diwydiant bwyd môr yng Nghymru, a'r posibilrwydd y gall y 'map ffordd' a grybwyllir uchod ddarparu ffocws ar gyfer gweithredu sydd i’w groesawu.
Nodwyd manylion yr Aelodau o'r Senedd a oedd yn absennol o’r cyfarfod hwn ac o gyfarfodydd blaenorol y grŵp trawsbleidiol.
Dyddiad y cyfarfod:
Amherthnasol
Yn bresennol:
Amherthnasol
Crynodeb o’r materion a drafodwyd:
Amherthnasol
[Rhowch enw'r lobïwr/sefydliad/elusennau fel a ganlyn e.e.]
Enw’r sefydliad:
Amherthnasol
Enw’r grŵp:
Amherthnasol
Enw’r sefydliad:
Amherthnasol
Enw’r grŵp:
Amherthnasol
Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Bysgodfeydd a Dyframaethu
Dyddiad:
06/10/24
Enw’r Cadeirydd:
Mabon ap Gwynfor – Plaid Cymru
Enw'r Ysgrifennydd a’r Sefydliad:
Helen Duggan – Seafish
|
Teitl |
Disgrifiad |
Swm |
|
Treuliau’r Grŵp |
Dim |
£0.00 |
|
Costau’r holl nwyddau |
Dim nwyddau wedi'u prynu |
£0.00 |
|
Buddiannau a gafodd y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol |
Ni chafwyd buddion. |
£0.00 |
|
Unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall |
Ni chafwyd unrhyw gymorth ariannol. |
£0.00 |
|
Cyfanswm |
£0.00 |
|
Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, megis lletygarwch.
Yr holl letygarwch y talwyd amdano [gan gynnwys enw'r grŵp/sefydliad].
|
Dyddiad |
Enw’r darparwr |
Costau |
|
|
|
£0.00 |
|
|
|
|
|
Cyfanswm |
£0.00 |
|